Amserlen arfaethedig y cyfarfodydd:

 

 

Hydref 2013:            Cyfarfod cychwynnol

 

Bydd y cyfarfod hwn yn penodi aelodau ar gyfer swyddi allweddol, yn egluro pam yr aethpwyd ati i gynnull y grŵp, yn cytuno ar y cylch gorchwyl ac yn datblygu cynllun gwaith.

 

Chwefror 2014:       Gwahanu ar sail rhyw a’r bwlch cyflog

 

Bydd y cyfarfod hwn yn ystyried achosion y bwlch cyflog rhwng y ddau ryw a gwahanu ar sail rhyw yn y gweithle. Bydd y meysydd trafod yn cynnwys cynrychiolaeth menywod yn y sectorau â blaenoriaeth, prentisiaethau a gyrfaoedd STEM.    

Mehefin 2014:          Symud ymlaen 

 

Bydd y cyfarfod hwn yn bwrw golwg ar yr hyn sy’n rhwystro menywod rhag symud ymlaen yn eu gyrfaoedd ac yn ystyried sut y gellir cynorthwyo menywod i wireddu eu potensial yn y gweithle.

 

Hydref 2014:           Y Wasgfa Sgiliau

 

Bydd y cyfarfod hwn yn ystyried y tanddefnydd a wneir o sgiliau menywod ac yn trafod sut y gellir defnyddio’r adnodd hwn yn well i gefnogi’r economi.

 

Chwefror 2015:       Y Gweithle Modern

 

Sut y gall arferion gweithle modern gynorthwyo i sicrhau’r newid sydd ei angen mewn diwylliant i gefnogi menywod i gymryd rhan yn y farchnad lafur i’w llawn botensial.

 

Mehefin 2015:          Pwy sy’n Poeni?

 

Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar ddyletswyddau gofalu ac ar sut y dylid cefnogi gweithwyr i gydbwyso eu cyfrifoldebau yn y cartref ac yn y gweithle.

 

Hydref 2015:            Menywod ym myd busnes

 

Bydd y cyfarfod hwn yn ystyried diffyg cynrychiolaeth menywod ym maes busnes. Yn y sesiwn hon, byddwn yn bwrw golwg ar y rhwystrau ac yn ystyried sut y gellir annog a chefnogi menywod sy’n entrepreneuriaid.

 

Chwefror 2016:       Beth nesaf?

 

Bydd y cyfarfod hwn yn pwyso a mesur y trafodaethau ac yn ystyried pa gamau sydd angen eu cymryd i sicrhau cydraddoldeb rhywiol yn economi Cymru.